Thank you for contacting me about the Welsh Government’s Agriculture (Wales) Bill. I appreciate you taking the time to notify me of your thoughts. The Agriculture (Wales) Bill is an incredibly important piece of legislation, which comes at a crucial time for our agriculture industry. With the Welsh Government’s Basic Payment Scheme coming to an end, Wales requires a home-grown scheme which incentivises and supports our farmers for their work in producing food and protecting the environment. As noted in the campaign email, not only does the agricultural industry account for a significant proportion of Wales’ land mass, but it also contributes over £6bn to Wales’ economy and employs approximately 17% of Wales’ total workforce, which is the equivalent of 222,000 people. It is a key component within Wales’ economy. Over the last several decades, we have played witness to the decline in biodiversity, natural habitats, and healthy environments. However, as stated in your campaign email, this is a once-in-a-lifetime opportunity to regenerate our natural environment, whilst protecting our agricultural industry, promoting our produce and providing support for our farmers to achieve both environmental and agricultural aims. It is for this reason, that we should not be seeking to pit the interests of the agricultural community against those of our environmental community. Indeed, there is no reason why both communities cannot be working as one. As the natural custodians of our land, our farmers know full well what is best for our environment. It is the role of the Welsh Government’s Sustainable Farming Scheme and Agriculture (Wales) Bill to ensure that they aren’t penalised for taking the necessary action to protect and nourish the land they farm. Indeed, you’re right to say that the sustainable production of good quality local food can enhance the resilience of farming and rural communities, but such production has the capability to go beyond just that. In a rapidly changing world, reliant upon global supply chains, we should be looking to develop our food security and expand upon our capacity to grow home-grown sustainable produce. However, to do this, we need our farmers to be successful. That is why I’m determined to ensure that the Agriculture (Wales) Bill not only enables our agricultural industry to develop more sustainable, nature-friendly ways of farming, but also ensures that our farming industry has the support it needs to expand, develop, and advance. Once again, thank you for taking the time to complete the campaign email.
Diolch am gysylltu â mi ynglŷn â Bil Amaethyddiaeth (Cymru) Llywodraeth Cymru. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi rhoi o'ch amser i gysylltu â mi i fynegi eich barn.
Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn ddarn o ddeddfwriaeth hynod bwysig sy'n cael ei gyflwyno ar adeg dyngedfennol i'n diwydiant amaeth. Gyda Chynllun Taliad Sylfaenol Llywodraeth Cymru yn dod i ben, mae angen cynllun ‘cartref’ ar Gymru sy'n cymell ac yn cefnogi ein ffermwyr yn eu gwaith o gynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd.
Fel y nodwyd yn e-bost yr ymgyrch, mae'r diwydiant amaethyddol yn cyfrif am gyfran sylweddol o fàs tir Cymru, ond mae hefyd yn cyfrannu dros £6 biliwn at economi Cymru ac yn cyflogi tua 17% o holl weithlu Cymru, sy'n gyfystyr â 222,000 o bobl. Mae'n elfen allweddol o economi Cymru.
Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi bod yn dyst i'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, cynefinoedd naturiol ac amgylcheddau iach. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn e-bost yr ymgyrch, mae hwn yn gyfle unigryw i adfywio ein hamgylchedd naturiol, gan ddiogelu ein diwydiant amaethyddol, hyrwyddo ein cynnyrch a darparu cymorth i'n ffermwyr gyflawni nodau amgylcheddol ac amaethyddol ar yr un pryd.
Am y rheswm hwn, ni ddylem fod yn ceisio gosod buddiannau'r gymuned amaethyddol yn erbyn buddiannau ein cymuned amgylcheddol. Yn wir, does dim rheswm pam na all y ddwy gymuned fod yn gweithio fel un.
Fel ceidwaid naturiol ein tir, mae ein ffermwyr yn gwybod yn iawn beth sydd orau i'n hamgylchedd. Rôl Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Bil Amaethyddiaeth (Cymru) Llywodraeth Cymru yw sicrhau nad ydynt yn cael eu cosbi am gymryd y camau angenrheidiol i warchod a meithrin y tir maen nhw'n ei ffermio.
Yn wir, rydych chi'n iawn i ddweud y gall cynhyrchu bwyd lleol o ansawdd da mewn ffordd gynaliadwy wella gwydnwch ffermio a chymunedau gwledig, ond mae gan gynhyrchu o'r fath y gallu i fynd y tu hwnt i hynny. Mewn byd sy'n newid yn gyflym ac sy'n ddibynnol ar gadwyni cyflenwi byd-eang, dylen ni fod yn ceisio datblygu ein diogeledd bwyd ac ehangu ar ein gallu i dyfu cynnyrch cartref cynaliadwy. Fodd bynnag, i wneud hyn, mae angen i'n ffermwyr fod yn llwyddiannus.
Dyna pam rwy'n benderfynol o sicrhau bod Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn galluogi ein diwydiant amaethyddol i ddatblygu dulliau ffermio mwy cynaliadwy ac addas i natur, ynghyd â sicrhau bod ein diwydiant ffermio yn cael y cymorth sydd ei angen arno i ehangu, datblygu a gwella.
Unwaith eto, diolch am roi o'ch amser i anfon yr e-bost hon.
Dymuniadau gorau,