Thank you very much for contacting me about the digging of peat and its use in horticulture.
As a general point, my colleagues and I in the Welsh Conservatives are deeply concerned that many of Wales’s uplands and peatlands are not in good condition, with some bogs even releasing CO2. Welsh Conservatives have therefore welcomed the National Peatlands Action programme in Wales, which is intended to help lock in carbon and reinvigorate vital habitats. However, I am concerned that the funding provided by the Labour Welsh Government - £5.75m over five years – lacks ambition, with targets of 600-800 hectares per annum to be restored. By comparison, in England, the UK Conservative Government is investing £640m to restore 35,000 hectares by 2025.
I am also aware that the UK Conservative Government will phase out the use of peat in horticulture, publishing a consultation in 2021 on the banning of the sale of peat and peat-containing products by 2024. As such, please do be reassured that my colleagues and I will continue to press the Welsh Government in this area, and my colleague, Janet Finch Saunders MS, will raise this directly with the Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters MS.
Thank you again for taking the time to write to me.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Diolch yn fawr iawn am gysylltu â mi ynglŷn â chloddio mawn a'i ddefnydd mewn garddwriaeth.
Fel pwynt cyffredinol, mae fy nghydweithwyr a minnau yn y Ceidwadwyr Cymreig yn pryderu'n fawr nad yw llawer o ucheldiroedd a mawndiroedd Cymru mewn cyflwr da, gyda rhai corsydd hyd yn oed yn rhyddhau CO2. Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yng Nghymru, sydd â'r bwriad o helpu i gloi carbon ac adfywio cynefinoedd hanfodol. Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod prinder uchelgais yn y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru - £5.75 miliwn dros bum mlynedd - gyda thargedau o 600-800 hectar y flwyddyn i'w hadfer. O'i gymharu, yn Lloegr, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn buddsoddi £640 miliwn i adfer 35,000 hectar erbyn 2025.
Rydw i hefyd yn ymwybodol y bydd Llywodraeth Geidwadol y DU yn diddymu'r defnydd o fawn mewn garddwriaeth, gan gyhoeddi ymgynghoriad yn 2021 ar wahardd gwerthu mawn a chynhyrchion sy'n cynnwys mawn erbyn 2024. Felly, cofiwch y bydd fy nghydweithwyr a minnau yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, a bydd fy nghydweithiwr, Janet Finch Saunders MS, yn codi hyn yn uniongyrchol gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS.
Diolch eto am roi o'ch amser i ysgrifennu ataf.