Diolch yn fawr i chi am gysylltu â mi ynghylch Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a gwneud Saesneg yn elfen orfodol o'r cwricwlwm.
Fel rwy'n deall, mae'r Bil yn darparu statws cyfartal i'r ddwy iaith. Mae hwn yn gam cadarnhaol tuag at oresgyn y gwrthwynebiad i'r Gymraeg, neu'r dryswch yn ei gylch, a welir o hyd mewn rhai ysgolion cyfrwng Saesneg.
Y broblem rydych chi'n ei chodi yw y bydd rhaid i ysgolion cyfrwng Cymraeg optio allan o addysgu Saesneg, sy'n gam nad oes rhaid iddynt ei gymryd ar hyn o bryd. Ni fydd opsiwn o'r fath i ysgol cyfrwng Saesneg optio allan o addysgu Cymraeg, ac ni ddylai fod chwaith.
Rwy'n sylweddoli bod y Bil drafft yn creu cam newydd sy'n ddiangen ar hyn o bryd gan fod distawrwydd statudol ar y mater. Rwy'n deall y ddadl bod creu'r cam newydd yn tanseilio cydraddoldeb y ddwy iaith.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau ers tro byd o blaid polisi tairieithog sy'n annog sgiliau ymarferol mewn mwy na dwy iaith fel na fyddem yn ceisio cyfyngu ar addysg plant drwy leihau eu cysylltiad â mwy nag un iaith drwy statud. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y pwynt bod dylanwadau Saesneg yn bodoli ym mhob rhan arall o fywydau ein plant a bod yna ddisgyblion sy'n gadael addysg cyfrwng Cymraeg nad ydynt mor rhugl yn y Gymraeg ag ydynt yn y Saesneg.
Yn unol â hynny, ni fyddem yn cefnogi'r gwaharddiad llwyr ar addysgu Saesneg (drwy gyfrwng y Gymraeg) gan fod ein pobl ifanc angen sgiliau Saesneg ysgrifenedig a llafar gwych erbyn iddynt adael yr ysgol. Fodd bynnag, dylai ysgolion cyfrwng Cymraeg, mewn cydweithrediad â theuluoedd, benderfynu pryd y bydd y gwaith hwnnw'n cychwyn. Nid oes gan arweinwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg unrhyw ddiddordeb mewn cyfyngu ar allu plentyn i fod yn ddwyieithog. Felly, dylid parchu eu rhyddid proffesiynol o ran gwybod sut i reoli risgiau i ruglder plant unigol yn y Gymraeg.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i gefnogi'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac maent yn benderfynol o sicrhau bod yr iaith yn rhan o fywyd bob dydd yng Nghymru. Wrth i ni graffu ar y Bil a deall yn well ei ganlyniadau fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, efallai y cawn ein hargyhoeddi bod angen rhoi sail i'r farn broffesiynol hon.
Un bygythiad difrifol i'n gallu i addysgu yn y Gymraeg, yn fy marn i, yw nifer yr athrawon sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg. Yn 2018-19, dim ond 175 o athrawon dan hyfforddiant a ddilynodd y cwrs hwn, o gymharu ag 890 nad oeddent yn hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg. Dyma'r pumed gostyngiad yn olynol, ac mae'r niferoedd ar eu lefelau isaf ers degawd, dim ond 16% o fyfyrwyr Addysg Gychwynnol Athrawon y flwyddyn gyntaf. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi nodi'n gyson yr angen i gynyddu'r niferoedd hyn gyda Llywodraeth Cymru, fel y gallwn gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Ar ben hynny, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i benodi rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes Cymraeg, gan ein bod ni'n credu hefyd mai'r ffordd orau o annog dwyieithrwydd y tu hwnt i'r ysgol yw drwy gefnogaeth, arweinyddiaeth a pherswâd gan gymheiriaid; ni all safonau gyflawni popeth.
Diolch eto am roi o'ch amser i ysgrifennu ataf.
Thank you very much for contacting me about the Curriculum and Assessment (Wales) Bill and making English a compulsory element of the curriculum.
As I understand it, the Bill provides equal standing for both languages. This is a positive step to overcome the resistance to, or confusion about, Welsh language, which is still seen in some English medium schools.
The issue you are raising is that Welsh medium schools will have to actively opt out of teaching English, a step they do not have to take at the moment. There will be no such option for English medium school to opt out of teaching Welsh and nor should there be.
I realise that the draft Bill creates a new step which is currently unnecessary as there is statutory silence on the issue. I understand the argument that the creation of the new step undermines the equality of the two languages.
Welsh Conservatives have long-argued for a trilingual Wales policy which encourages practical skills in more than two languages so we would not be seeking to limit children’s education by reducing exposure to more than one language via statute. However, we recognise the point that there are English-language influences in all other areas of our children’s lives and that we still have pupils leaving Welsh medium education who are not as fluent in Welsh as they are in English.
Accordingly, we would not support the outright ban on teaching English (through the medium of Welsh) as our young people still need excellent written and oral command of English by the time they leave school. However, Welsh medium schools, in conjunction with families, should determine when that work starts. Welsh medium school leaders have no interest in limiting a child’s ability to be bilingual. Therefore, their professional freedom should be respected when it comes to knowing how to manage risks to individual children’s fluency in Welsh.
Welsh Conservatives remain supportive of the one million speakers target, and are determined for the language to play a part in everyday Welsh life. As we scrutinise the Bill and better understand the consequences of it as currently drafted, we may be persuaded that this professional judgement needs underpinning
A serious threat to our ability to teach in Welsh, I believe, is the number of teachers who are currently training to teach in Welsh. In 2018-19, just 175 teacher training students took this course, compared with 890 who were not training to teach in Welsh. This is the fifth decrease in a row, and numbers are at the lowest levels in a decade, making up just 16% of the first year Initial Teacher Education students. Welsh Conservatives have consistently raised the need to increase these numbers with Welsh Government, so that we can hit the one million speakers target.
Furthermore, we have called on the Welsh Government to appoint a network of Welsh language business champions, as we also think the best way to encourage bilingualism beyond school is through peer-to-peer support, leadership and persuasion; Standards cannot achiever everything .
Thank you again for taking the time to write to me.